Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd Grug Muse: Ffeithiol greadigol a barddoniaeth
I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, mae Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl.
Digwyddiadau cyhoeddus yw鈥檙 rhain sy鈥檔 rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. C芒nt eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.
Bydd Dr Alys Conran yn cyflwyno sgwrs am Croesi Cyfandir ar Ddwy Olwyn, cyfrol ryddiaith gyntaf y bardd Grug Muse sy'n dilyn ei thaith feic 4000 milltir o Cape Cod i Portland, Oregon, taith 80 diwrnod ar ei phen ei hun.
Dilynir hyn am 6.30 gan lansiad detholiad myfyrwyr MA Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) yn Pontio PL2, lle bydd Grug yn rhoi darlleniad barddoniaeth gyda chyfieithiad.