Gwahoddir pobl ar Ynys Môn a'r cyffiniau i ymuno â digwyddiadau gwirfoddoli wrth cronfa ddžr Llyn Alaw (Ynys Môn) ym mis Hydref a mis Chwefror, i helpu i ailddarganfod cerflun anferth (tua 11x6 llath) gan yr artist Beca Paul Davies (sy'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad "Welsh Not" yn Eisteddfod 1977).
Maeâr digwyddiadauân deillio o gydweithrediad cyfredol rhwng DĹľr Cymru, Uned Ardal Harddwch Naturiol Eithrioadol a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ynys MĂ´n, aâr ymchwilydd, Dr Sarah Pogoda o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor.
Celfyddyd Tir 'Map of Wales' ger Llyn Alaw
Un oâr gweithiau mawr cyntaf oâr hyn a elwir yn âgelfyddyd tirâ yng Nghymru aâr DU
Mae Sarah yn esbonio:
âSefydlodd Paul y comisiwn gan DĹľr Cymru ym 1987 yng nghyd-destun âBlwyddyn yr Amgylcheddâ y Comisiwn Ewropeaidd ar y pryd. Ymunodd Paul, gyda myfyrwyr Celf a Dylunio Coleg Llandrillo Menai (Coleg Technegol Gwynedd gynt) ar y pryd a gwirfoddolwyr lleol dros gyfnod o fisoedd i adeiladuâr cerflun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn unig. Maeân un oâr gweithiau mawr cyntaf oâr hyn a elwir yn âgelfyddyd tirâ yng Nghymru aâr DU.â
Mae'r cerflun wedi bod yn gordyfu gan fieri, eithin, ac isdyfiant am dros ddegawd.
Esboniodd Alwyn Roberts o DĹľr Cymru:
âRydym yn falch iawn o chwarae ein rhan i ddod ââr darn hwn o dreftadaeth ddiwylliannol yn Ă´l yn fyw. Roedd yr ardal â a chyda hynny y cerflun â ychydig o olwg cyhoeddus ers i Bysgodfa Alaw gau nifer o flynyddoedd yn Ă´l, ond gobeithiwn trwy ein hymdrechion cydweithredol y byddwn yn dod ââr cerflun yn Ă´l iâw fwynhau gan ymwelwyr ââr safle, gan ei fod yn ddarn pwysig o dreftadaeth leol.â
Mae Owen Davies (Warden Cymunedol AHNE Cyngor Sir Ynys MĂ´n) wedi bod yn arwain y gwaith o glirioâr gordyfiant o amgylch y cerflun a threfnuâr digwyddiadau gwirfoddoli ar gyfer Chwefror eleni.
Eglura Owen:
âRydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i adfywioâr gwaith celf hanesyddol hwn ger Llyn Alaw gan ddefnyddio offer llaw fel tocwyr gardd a llifiau bwa. Bydd hwn yn waith heriol o ystyried cyflwr presennol y cerflun, ond hefyd syân teimloân fuddiol dros ben, felly byddwn yn ddiolchgar am bob cymorth a bĂ´n braich iâw adfer!â
Bydd y digwyddiad gwirfoddoli yn cael ei gynnal rhwng 2-3 Chwefror. Gall gwirfoddolwyr gael ad-daliad am gostau tanwydd, ond byddwn hefyd yn trefnu lifftiau i'r safle ac yn ôl. Bydd toiled sumudol a chyfleusterau golchi dwylo ar gael. Dewch â'ch cinio eich hun.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau gwirfoddoli, cysylltwch ag aonb@ynysmon.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yn ymwneud ââr cerflun, cysylltwch â s.pogoda@bangor.ac.uk neu 01248 382521.